Joshua 15

Y tir gafodd llwyth Jwda

1Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef i lawr yn y de. 2Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw,
15:2,5 Hebraeg, “Môr Halen”
3heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca. 4Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.
5Y Môr Marw at aber Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.
Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,
6i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben). 7Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel
15:7 En-rogel sef, "Ffynnon y Pannwr"
.
8Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm. 9O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearim). 10Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna. 11Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.
12Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol.

Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.

Caleb yn concro Hebron a Debir

(Barnwyr 1:11-15)

13Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) 14Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai. 15Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.) 16Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” 17Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. 18Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?” 19A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

Trefi Jwda

20Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:

21Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr, 22Cina, Dimona, Adada, 23Cedesh, Chatsor, Ithnan, 24Siff, Telem, Bealoth, 25Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor), 26Amam, Shema, Molada, 27Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet, 28Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiothia, 29Baäla, Ïim, Etsem, 30Eltolad, Cesil, Horma, 31Siclag, Madmanna, Sansanna, 32Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. Dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
33Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna, 34Sanoach, En-gannïm, Tappŵach, Enam, 35Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca, 36Shaaraim, Adithaïm, a Gedera (neu Gederothaim) – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
37Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad, 38Dilean, Mitspe, Iocteël, 39Lachish, Botscath, Eglon, 40Cabbon, Lachmas, Citlish, 41Gederoth, Beth-dagon, Naäma, a Macceda – un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
42Trefi Libna, Ether, Ashan, 43Ifftach, Ashna, Netsib, 44Ceila, Achsib, a Maresha – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
45Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi, 46ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas. 47Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas – yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.
48Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho, 49Danna, Ciriath-sanna (sef Debir), 50Anab, Eshtemoa, Anim, 51Gosen, Holon, a Gilo – un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
52Hefyd Arab, Dwma, Eshan, 53Janwm, Beth-tappwach, Affeca, 54Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
55Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta, 56Jesreel, Iocdeam, Sanoach, 57Cain, Gibea, a Timna – deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
58Chalchwl, Beth-tswr, Gedor, 59Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
60Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) a Rabba – dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.
61Yna'r trefi yn yr anialwch – Beth-araba, Midin, Sechacha, 62Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

63Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.

Copyright information for CYM